Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 10.58 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Rebecca Evans AC Janet Finch-Saunders AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Grant Duncan, Llywodraeth Cymru Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Carys Thomas, NISCHR |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Victoria Paris (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 7
2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:
· nodyn ar ddarparu triniaeth a gwasanaethau i gleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin ar lefel Cymru-gyfan fel enghraifft o wasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer canserau llai cyffredin;
· cadarnhad bod y dechnoleg yn ei lle i gefnogi’r gwaith o adrodd yn amserol ar yr adolygiadau o’r achosion o ganser yr ysgyfaint a chanser gastroberfeddol yr ymdrinnir â hwy gan bob meddyg teulu yng Nghymru yn 2014 ar lefel meddyg teulu, lefel clwstwr meddygon teulu a’r lefel genedlaethol;
· nodyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y trafodaethau tairochrog ar reoliadau drafft yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelu data, a’r effaith bosibl ar ymchwil canser yng Nghymru;
· y papur a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwiliad Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin i Sgrinio Iechyd Cenedlaethol;
· nodyn i egluro a oes adnoddau a chapasiti ar gael ar gyfer sgrinio coluddion yng Nghymru.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd yr aelodau y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan dystion a oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mai 2014 mewn perthynas â’r ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ystyried dull y Comisiwn o ymchwilio i gyffuriau penfeddwol cyfreithlon
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dull gweithredu ar gyfer ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") a chytunodd ar y dull a drafodwyd.